27/05/2015

Gŵyl Nôl a Mla'n 2015 : Llangrannog

Gŵyl Gerddorol yn Llangrannog, AM DDIM.
Music Festival in Llangrannog, FREE. 

Eeni, rydym ni'n dathlu 100 mlynedd T. Llew Jones.
This year we are celebrating T.Llew Jones' 100th birthday.

05/06/2015 - Nos Wener o 7yh ymlaen
CANDELAS
YSGOL SUL
UUMAR
WELSH WHISPERER

06/06/2015 - Dydd Sadwrn o 1yh ymlaen
DAFYDD IWAN
SŴNAMI
AIL SYMUDIAD
FORTZA
CÔR MEIBION BLAENPORTH
RAFFDAM
CORAU YSGOLION
+ADLONIANT I'R PLANT

Manylion cyswllt / Contact Details
Pentre Arms - 01239 654345
Y Llong - 01239 654510
Gwersylla - 07950 568538


20/05/2015

Amserlen Gŵyl Nôl a Mla'n 2015

Gŵyl Nôl a Mla’n
Nos Wener 05/06/15

Amser
Y Pentre
Y Llong / Ship
19:00
Welsh Whisperer


19:30

Uumar
20.30

Welsh Whisperer
20:30
Ysgol Sul


21:30


Welsh Whisperer
22:00
Candelas



Gŵyl Nôl a Mla’n
Dydd Sadwrn 06/06/15

Amser
Y Pentre
Y Ship / Llong
13:00

Ysgol T. Llew Jones

13:30

Jac Russell
Helfa Drysor

14:00

Creu Cerdd a Rap gyda Aneirin Karadog Bardd Plant Cymru

14:30

Amser Stori T.Llew yn y Garafan Sipsiwn
15:00

Ysgol Bro Siôn Cwilt

15.30

Râs Hwyaid gyda Jac Russell
Cyfle i blant dynnu llun gyda Jac

16:00


Dafydd Iwan a’r Band

17:00

Raffdam


18:00


Côr Meibion Blaenporth
19:00

Fortza


20:00


Ail Symudiad

21:00

Sŵnami


22:00


Dafydd Iwan a’r Band



21/04/2015

Gwyl Nol a Mlan 2015

Gŵyl i bawb o bob oedran ym mhentre' lan môr hardda Cymru, Llangrannog yw Gwyl Nol a Mlan. Cynhelir yr ŵyl yn 2015 ar Nos Wener Mehefin 5ed a Dydd Sadwrn Mehefin 6ed ac fel arfer, unwaith eto eleni, mae'r ŵyl yn rhad ac am ddim.


05/06/2014

Amserlen Gwyl Nol a Mlan 2014

Nos Wener, Mehefin 6ed 2014

19:00
Nofa

(Llwyfan y Pentref)
19:30
Band Dixie Rhys Taylor
(Llwyfan y Ship)

20:00
Lowri Evans a’r Band

(Llwyfan y Pentref)
21:00
Band Dixie Rhys Taylor

(Llwyfan y Ship)
21:30
Al Lewis a’r Band

(Llwyfan y Pentref)

Dydd Sadwrn, Mehefin 7fed 2014

13:00
Ysgol T. Llew Jones

(Llwyfan y Ship)
13:30
Adloniant plant

(Llwyfan y Ship)
14:00
Aneirin Karadog

(Llwyfan y Ship)
14:30
Adloniant plant

(Llwyfan y Ship)
15:00
Ysgol Bro Sion Cwilt

(Llwyfan y Ship)
16:00

Côr y Wiber

(Llwyfan y Ship)
17:00

Mellt

(Llwyfan y Pentref)
18:00

Kizzy Crawford

(Llwyfan y Ship)
19:00

Hwntws

(Llwyfan y Pentref)
20:00

Brython Shag
(Llwyfan y Ship)

21:00

*Blaidd

(Llwyfan y Pentref)
22:00

H a’r Band

(Llwyfan y Ship)




*Mae ein meddyliau a phob cydymdeimlad gyda aelod o Endaf Gremlin ac yr ydym yn llwyr ddeall na fyddan nhw'n medru perfformio nos Sadwrn. Diolch yn fawr i Blaidd am gytuno i lenwi'r bwlch.

03/06/2014

Manylion am Fandiau Nos Sadwrn Gwyl Nol a Mlan 2014!

H a’r Band 

Ffurfiwyd 'H' a'r Band ddwy flynedd yn ôl gan Cleif Harpwood, prif-leisydd Edward H Dafis, un o fandiau amlwg y 1970au yng Nghymru. Cytunodd tri arall o'r band eiconig hwnnw, Hefin Elis, Charli Britton a John Griffiths ddod ato i berfformio caneuon poblogaidd y band i gynulleidfaoedd ar draws Cymru unwaith yn rhagor. Felly mae pedwar rhan o bump o Edward H yma i'ch diddanu heddiw, ac yn ogystal â hyn pedwar o aelodau eraill, yn gerddorion medrus a chyfarwydd; Elain a Ffion Llwyd, Mirain Haf a'r gitarydd Wyn Pearson. Dyma 'H' a'r Band. Mi fydd 'H' yn cyflwyno caneuon mwyaf adnabyddus Edward H, Ac Eraill, ynghyd â chyfansoddiadau poblogaidd gan Cleif H ei hun, a hefyd detholiad o ganeuon yr opera roc 'Nia Ben Aur' sy'n dathlu deugain mlynedd eleni. Mae gan Cleif H gysylltiad agos iawn â Llangrannog fel aelod o staff haf gwersyll yr Urdd ym mlynyddoedd cynnar y 1970au. Bu Bae Ceredigion ac Ynys Lochtyn yn gynfas i ganeuon fel Nia Ben Aur, Cân yn Ofer ac Ysbryd y nos. Anrhydedd o'r mwyaf bydd perfformio'r caneuon hyn yn ôl yn eu cynefin. Mwynhewch flas o ganeuon y chwyldro yng nghwmni 'H' a'r Band.


Brython Shag

O lwch hen fandiau Stiniog, ffurfiwyd un newydd... a ma hein yn mynd i godi'r to, o ddifri mo!” Mae Brython Shag yn bedwarawd o Flaenau Ffestiniog. Aelodau’r band yw Ceri C, y prif-leisydd, Deian Rhys Jones yn chwarae’r gitar fas, Gai Toms ar y gitar a Jason Hughes yn chwarae’r drymiau. Maent yn chwarae cerddoriaeth roc-amgen ac yn disgrifio eu dylanwadau fel unrhyw cerddoriaeth dda!

Hwntws

Mae’r Hwntws yn fand o ardal Glyn Ebwy, gwnaeth cymryd eu henw o’r gair Gogleddol am bobl y De. Maent yn canu nifer o ganeuon traddodiadol o’r ardal o le maen nhw’n dod, ac mae’r parch sydd ganddynt at ddilysrwydd ieithyddol yn golygu eu bod nhw wedi atgyfodi y tafodiaith rhanbarthol cafodd ei ddefnyddio’n wreiddiol wrth ganu’r caneuon yma – Gwenhwyseg.


Kizzy Crawford

Dechreuodd Kizzy Meriel Crawford, sy’n 17 mlwydd oed, ei gyrfa solo dim ond dwy flynedd yn ôl. Ers hynny, mae'r siaradwraig Cymraeg gyda gwreiddiau Bajan, wedi datblygu steil cyfansoddi soffistigedig sy’n ategu at ei llais llawn ystod a charisma. Ei huchelgais fel artist du Cymreig yw gwneud ei marc trwy gyfuno 'soul'/jazz dwyieithog ac mae hi eisoes yn cael cydnabyddiaeth gyda'i cherddoriaeth yn cael ei chwarae ar BBC Radio Wales a Radio Cymru yn aml yn ogystal â perfformio’n fyw ar S4C.


Mellt

Band o bedwar o Aberystwyth yw Mellt; Glyn, Ellis, Gethin a Geraint. Buont yn canu o dan yr enw Gwirfoddolwyr, ond ymddangosant fel Mellt am y tro cytnaf yn Gig Hanner Cant. Eu dylanwadau yw The Smiths, The Clash a The Replacements i enwi ond ychydig.

Cor y Wiber

Mae Côr y Wiber yn gôr merched ifanc a bywiog o Gastell Newydd Emlyn. Dewiswyd yr enw oherwydd hanes Gwiber Emlyn, sef y ddraig/wiber a ymosododd ar Gastell Newydd Emlyn.
Ers ei sefydlu yn 2010, mae’r côr wedi mynd o nerth i nerth dan arweiniad Angharad Thomas, gan ennill nifer o wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Côr Cymru yn 2013. Yn ogystal â hynny mae’r côr wedi perfformio mewn nifer o nosweithiau anffurfiol a digwyddiadau lleol, ac maent i’w clywed yn canu lleisiau cefndir ar gryno ddisg diweddaraf Fflur Dafydd.

Manylion am Fandiau Nos Wener Gwyl Nol a Mlan 2014!

Al Lewis

Mae Al Lewis, cerddor o Ogledd Cymru, wedi cael ei gymharu â pobl fel James Taylor, Josh Rouse a Meic Stevens, gan ei osod mewn cwmni da. Er iddo gymryd elfennau o’r dylanwadau yma, mae Al yn cadw ei gerddoriaeth yn ffres, wrth berfformio pob trac gyda thro modern ag egni ieuenctid. Mae ei sengl ‘Make a Little Room’ wedi cael ei chwarae ar BBC Radio 2, cân onest sy’n cyfuno’n berffaith synau acwstig, meddal gyda llais yn llawn emosiwn – priodwedd mae pob trac yn rhannu. Gwnaeth Al ymuno â Jools Holland a’i Gerddorfa R&B ar eu taith o gwmpas y D.U. yn ystod haf diwethaf, gan orffen gyda perfformiad i lond tŷ yng Ngerddi Kew.



Lowri Evans

Mae Lowri yn gerddores weithgar, gyda phersonoliaeth bywiog, positif sydd bob amser yn dangos yn ei pherfformiadau. Daeth hi’n ail yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2008, cafodd ei henwebu ar gyfer Cerddores Gymraeg y Flwyddyn 2010, mae wedi recordio nifer o sesiynau ar gyfer BBC Radio Cymru ac mae ei cherddoriaeth wedi cael ei chwarae ar nifer o raglenni radio ar draws y D.U., Iwerddon, yr Unol Daleithiau a’r Almaen. Ym mis Ebrill, aeth Lowri ar daith o amgylch Chigaco, Indiana a Nashville, a chafodd ei hail sengl ei ryddhau ar y 10fed o Fawrth.

 

Band Dixie Rhys Taylor

Mae’r band wedi cael ei wneud o grŵp o ffrindiau sy'n joio cerddoriaeth Jazz Dixieland. Maent yn cyfuno steil New Orleans â cherddoriaeth traddodiadol a phoblogaidd Cymraeg. Dychmygwch ganu eich hoff ganeuon Cymraeg ar ôl i Gymru guro Lloegr, i gyfeiliant band jazz byw!

Nofa

Band ifanc o Sir Benfro yw Nofa, gyda Ifan Burge yn canu a chwarae gitar, Steffan Williams hefyd yn chwarae gitar, a Henry a Dan Jones yn chwarae’r gitar fas a’r drymiau. Buodd y band yn cystadlu yn rownd derfynol Brwydr y Bandiau C2 Radio Cymru eleni, a byddant yn recordio a rhyddhau eu EP cyntaf dros yr haf.

20/05/2014

Gwyl Nol a Mlan 2014 - Digwyddiad Facebook

Os ydych chi ar facebook, beth am ddweud eich bod yn dod i'r digwyddiad trwy bwyso ar y llun isod. Bydd yr holl wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei bostio ar y digwyddiad Facebook, yn ogystal ag ar ein Tudalen Facebook a Chyfrif Twitter @gwylnolamlan.

https://www.facebook.com/events/609034755858669/