Beth yw Nôl a Mla'n?

Gŵyl i bawb o bob oedran ym mhentre' lan môr hardda Cymru, Llangrannog yw Gŵyl Nol a Mlan! Cynhelir yr ŵyl yn 2015 ar Nos Wener Mehefin y 5ed a Dydd Sadwrn Mehefin 6ed ac fel arfer, unwaith eto mae'r ŵyl yn rhad ac am ddim!

Mae Gŵyl Nôl a Mla’n wedi sefydlu ei hun fel un o brif wyliau cerddorol Cymru. Mae’r ŵyl wedi mynd o nerth i nerth gan gynyddu mewn maint a statws dros y blynyddoedd.

Daw’r enw o’r arferiad o ymlwybro nôl a mla’n rhwng y ddau dŷ tafarn, y Ship a’r Pentref, gan brofi’r croeso a’r cymdeithasu gwych sydd yn y ddau fangre.

Darperir yr adloniant mewn pabell fawr rhwng y 2 dafarn, ac mae'n gwbl rhad ac am ddim, tipyn o gamp gan ystyried fod prif fandiau Cymru wedi perfformio yn yr ŵyl. Eleni eto fe fydd yr arlwy o’r safon uchaf.

Noddir yr ŵyl yn flynyddol gan fusnesau ac unigolion sy’n deall gwerth a phwysigrwydd digwyddiad o’r math hwn yng nghefn gwlad Cymru. Rydym yn hynod ddyledus a'n ddiolchgar iawn iddynt.

Felly peidiwch ac oedi, trefnwch eich penwythnos yn Llanrgannog, byddwch yn rhan o un o brif wyliau cerddorol Cymru. Mae lletya, gan gynnwys gwely a brecwast a gwersylla ar gael yn y pentref ei hun.

Mae’r ŵyl yn cychwyn ar nos Wener gyda bandiau’n chwarae’n fyw ar y llwyfan, ac mae’r cyfan yn parhau gydol y dydd Sadwrn gan orffen gyda’r machlud ar y nos Sadwrn! Profiad bythgofiadwy.

Mwynhewch y croeso, mwynhewch y gerddoriaeth, Edrychwn ymlaen at eich gweld yng Ngŵyl Nôl a Mla’n eleni.

I'r bar rhwng y môr a'r byd,
ac i'r un rhwng y graig a'r machlud;
rhwng pentref a llong hefyd,
awn yn ôl a mla'n o hyd.
Ceri Wyn Jones