11/06/2013

Lluniau Gŵyl Nôl a Mla'n 2013



Ychwanegwch eich lluniau i grŵp Flickr Gŵyl Nôl a Mla'n, a byddant yn ymddangos uchod. Diolch.

Mwy o luniau Gwyl Nol a Mlan 2013 yma gan Lleucu Meinir.

I weld y lluniau cafodd eu postio ar Twitter yn ystod yr ŵyl, ewch at #gwylnolamlan ar Twitter a gwasgu ar y lluniau ar y brig ar y chwith.

06/06/2013

Amserlen Gŵyl Nôl a Mla'n 2013!

Isod mae bras amserlen ar gyfer Gwyl Nol a Mlan 2013. Gall amserau newid yn ystod yr ŵyl, felly cofiwch ddod yn ddigon cynnar i sicrhau eich bod yn gweld yr holl fandiau!

Nos Wener, Mehefin 7fed 2013

19:00: Castro
20:00: Y Ffug
21:00: DOM
22:00: Fflur Dafydd ar Barf

Nos Sadwrn, Mehefin 8fed 2013

19:00 Mattoidz 
20:00 Cowbois Rhos Botwnnog 
21:00 Y Bandana 
22:00 Mynediad Am Ddim 

Ac yn y dydd...
13:00 Ysgol T Llew Jones
13:20 Dawns Llangrannog
13:30 Heini
14:00 Eurig Salisbury
14:10 Ysgol Bro Sion Cwilt
14:30 Heini
15:30 Heini
16:00 Mynediad am Ddim
17:00 Bois Y Frenni
18:00 Côr Corlan

12/05/2013

Cefnogwch a Dilynwch Gŵyl Nôl a Mla'n

Cynhelir yr ŵyl yn 2013 ar Nos Wener Mehefin 7fed a Dydd Sadwrn Mehefin 8fed ac unwaith eto eleni mae'r ŵyl yn rhad ac am ddim! Gallwch helpu ni i ledaenu'r neges trwy ein dilyn ar Twitter (ac aildrydar plis) a Hoffi ein tudalen Facebook (a rhannu'r dudalen). Dewch i Langrannog i fwynhau, fel y gwnaeth y criw yma flwyddyn diwethaf!



09/05/2013

Cowbois Rhos Botwnnog

Gallwn gadarnhau y bydd COWBOIS RHOS BOTWNNOG, un o fandiau byw mwyaf poblogaidd Cymru, yn chwarae yn Gŵyl Nôl a Ml'an Llangrannog eleni! Mwy o wybodaeth i ddilyn. Cofiwch y dyddiad,
7/8fed o Fehefin 2013. Gallwn addo na fydd glaw (wel gobeithio!)

01/05/2013

Y Bandana

Band arall bydd yn sefyll nid wrth y tan ond ar lwyfan GNAM ar ddydd Sadwrn yr 8fed bydd Y BANDANA

Fflur Dafydd

A dyma reswm pam i ddod i Langrannog am y penwythnos cyfan yn mis Mehefin, yn cloi y nos Wener bydd yr amryddawn Fflur Dafydd http://www.fflurdafydd.com/

Mynediad am ddim i weld Mynediad am Ddim!

Felly gyfeillion, dyma ichi'r newyddion anhygoel y bydd y siwpyrband MYNEDIAD AM DDIM yn perfformio yn yr unig wyl AM DDIM ar yr 8fed o Fehefin. http://www.mynediadamddim.com