Al Lewis
Mae Al Lewis, cerddor o Ogledd Cymru, wedi cael ei
gymharu â pobl fel James Taylor, Josh Rouse a Meic Stevens, gan ei osod
mewn cwmni da. Er iddo gymryd elfennau o’r dylanwadau yma, mae Al yn
cadw ei gerddoriaeth yn ffres, wrth berfformio pob trac gyda thro modern
ag egni ieuenctid. Mae ei sengl ‘Make a Little Room’ wedi cael ei
chwarae ar BBC Radio 2, cân onest sy’n cyfuno’n berffaith synau acwstig,
meddal gyda llais yn llawn emosiwn – priodwedd mae pob trac yn rhannu.
Gwnaeth Al ymuno â Jools Holland a’i Gerddorfa R&B ar eu taith o
gwmpas y D.U. yn ystod haf diwethaf, gan orffen gyda perfformiad i lond
tŷ yng Ngerddi Kew.
Lowri Evans
Mae Lowri yn gerddores weithgar, gyda phersonoliaeth
bywiog, positif sydd bob amser yn dangos yn ei pherfformiadau. Daeth
hi’n ail yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2008, cafodd ei henwebu ar
gyfer Cerddores Gymraeg y Flwyddyn 2010, mae wedi recordio nifer o
sesiynau ar gyfer BBC Radio Cymru ac mae ei cherddoriaeth wedi cael ei
chwarae ar nifer o raglenni radio ar draws y D.U., Iwerddon, yr Unol
Daleithiau a’r Almaen. Ym mis Ebrill, aeth Lowri ar daith o amgylch
Chigaco, Indiana a Nashville, a chafodd ei hail sengl ei ryddhau ar y
10fed o Fawrth.
Band Dixie Rhys Taylor
Mae’r band wedi cael ei wneud o grŵp o
ffrindiau sy'n joio cerddoriaeth Jazz Dixieland. Maent yn cyfuno steil
New Orleans â cherddoriaeth traddodiadol a phoblogaidd Cymraeg.
Dychmygwch ganu eich hoff ganeuon Cymraeg ar ôl i Gymru guro Lloegr, i
gyfeiliant band jazz byw!
Nofa
Band ifanc o Sir Benfro yw Nofa, gyda Ifan Burge yn canu a chwarae gitar, Steffan Williams hefyd yn chwarae gitar, a Henry a Dan Jones yn chwarae’r gitar fas a’r drymiau. Buodd y band yn cystadlu yn rownd derfynol Brwydr y Bandiau C2 Radio Cymru eleni, a byddant yn recordio a rhyddhau eu EP cyntaf dros yr haf.
No comments:
Post a Comment